Rydym yn cefnogi gweithgynhyrchwyr Sir y Fflint gyda chynhyrchiant, sgiliau, hyfforddiant a gwybodaeth am ddatgarboneiddio i wella eu llwyddiant yn y farchnad.

Mae rhaglen Defnyddio Technoleg a Sgiliau i Wella Cynhyrchiant a Datgarboneiddio (ADAPTS) yn cynnig cefnogaeth am ddim i weithgynhyrchwyr yn Sir y Fflint, gan roi mynediad heb ei ail at dechnoleg gweithgynhyrchu uwch, trosglwyddo gwybodaeth, hyfforddiant ac uwchsgilio mewn strategaethau digidol a datgarboneiddio.

Bydd y rhaglen yn cefnogi hyd at 32 o fusnesau - o unrhyw sector - i ddatgarboneiddio, cynyddu cynhyrchiant, arloesi ac uwchsgilio eu staff.

Gallwch weld sut gallwn ni helpu eich busnes i fod yn fwy cynhyrchiol a chynaliadwy drwy lenwi ein ffurflen gyswllt isod.

Darganfod mwy

Mae ADAPTS yn cael ei ariannu gan Gyngor Sir y Fflint drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.  

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) yn rhan o fenter Ffyniant Bro y llywodraeth, a fydd wedi darparu £2.6 biliwn o gyllid erbyn mis Mawrth 2025 i gefnogi buddsoddiad lleol ar draws holl ranbarthau’r DU i fynd i’r afael â gwahaniaethau ac anghenion mewn ardaloedd cyfoethog a difreintiedig.

Mae AMRC Cymru wedi gwneud cais llwyddiannus ar gyfer ADAPTS er mwyn cefnogi gweithgynhyrchwyr lleol gyda gwybodaeth am ddatgarboneiddio, cynhyrchiant, sgiliau a hyfforddiant, sef y prif ffactorau sydd eu hangen ar gyfer sicrhau llwyddiant yn y farchnad.

Bydd yr wythnos gyntaf o ymyrryd yn canolbwyntio ar gofnodi agweddau gweithgynhyrchu hanfodol fel:

  • Statws technoleg
  • Cyfleoedd ar gyfer datgarboneiddio 
  • Asesiadau cynhyrchiant
  • Asesiadau amgylcheddol
  • Cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant drwy Gyfrif Dysgu Personol Cymru.

Os byddwch yn llwyddiannus, bydd y cymorth llawn yn cynnwys:

  • Cymorth wedi’i deilwra gan dîm peirianneg AMRC Cymru am dri mis ar gyfartaledd, i ganolbwyntio ar fabwysiadu technolegau uwch
  • Mynediad at hyfforddiant pwrpasol ar sgiliau technoleg drwy Goleg Cambria i dri aelod o’ch staff
  • Hyfforddiant sylfaenol ar gynaliadwyedd i fusnesau gan Small World Consulting.

Cysylltwch â ni heddiw - a bydd peiriannydd yn cysylltu â chi i drefnu eich asesiad wythnos un.

Llenwch y ffurflen hon

Yn ystod wythnos un, mae angen i chi wneud y canlynol:

  • Rhoi rywfaint o’ch amser i ni er mwyn i ni allu dysgu am eich busnes, drwy fynd â ni ar daith o amgylch eich safle, a rhoi amser i ni gofnodi gweithgarwch eich busnes
  • Darparu gwybodaeth allweddol am eich busnes i'w mewnbynnu i adnodd asesu carbon Small World Consulting.

Os bydd eich cwmni’n datblygu i fod yn brosiect cymorth llwyddiannus a chynhwysfawr, byddwch yn gwneud y canlynol:

  • Rhoi adborth ar gyfeiriad datblygu’r prosiect
  • Rhoi amser i’ch staff gael gafael ar hyfforddiant drwy Small World Consulting a Choleg Cambria.

Cysylltu â ni