Rydym yn cefnogi gweithwyr mewn gweithgynhyrchwyr ym Mhowys gyda chynhyrchiant, sgiliau, hyfforddiant a gwybodaeth am ddatgarboneiddio i wella eu llwyddiant yn y farchnad.

Bydd y rhaglen ADAPTS yn cefnogi gweithgynhyrchwyr ym Mhowys, gan ddarparu mynediad heb ei ail at drosglwyddo gwybodaeth, hyfforddiant, uwchsgilio a thechnoleg gweithgynhyrchu uwch, i gefnogi’r gwaith o ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau mewn materion digidol a datgarboneiddio.

Bydd y rhaglen yn cefnogi hyd at 16 o fusnesau, o unrhyw sector, i ddatgarboneiddio, cynyddu cynhyrchiant, arloesi ac uwchsgilio eu staff.

Drwy lenwi ein ffurflen gyswllt isod gallwch weld sut gallwn ni helpu eich busnes a’ch gweithwyr i fod yn fwy gwybodus, cynhyrchiol a chynaliadwy.

FAQs

Mae ADAPTS yn cael ei ariannu gan Gyngor Sir y Fflint drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.  

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) yn rhan o fenter Ffyniant Bro y llywodraeth, a fydd wedi darparu £2.6 biliwn o gyllid erbyn mis Mawrth 2025 i gefnogi buddsoddiad lleol ar draws holl ranbarthau’r DU i fynd i’r afael â gwahaniaethau ac anghenion mewn ardaloedd cyfoethog a difreintiedig.

Mae AMRC Cymru wedi gwneud cais llwyddiannus ar gyfer ADAPTS er mwyn cefnogi gweithgynhyrchwyr lleol gyda gwybodaeth am ddatgarboneiddio, cynhyrchiant, sgiliau a hyfforddiant, sef y prif ffactorau sydd eu hangen ar gyfer sicrhau llwyddiant yn y farchnad.

News

Previous slide
Next slide