AMRC Cymru yn dathlu pum mlynedd o effaith fel ased cenedlaethol
12 December 2024Mae AMRC Cymru wedi dod yn ‘ased cenedlaethol’ ers pan gafodd ei sefydlu bum mlynedd yn ôl. Ei genhadaeth oedd cryfhau gweithgynhyrchu yng Nghymru drwy ddefnyddio uwch dechnolegau ac ymchwil o’r radd flaenaf i sicrhau’r gwelliant a’r arloesedd y mae ar fusnesau ei angen er mwyn tyfu a ffynnu.
Ers agor ei drysau ar 28 Tachwedd 2019, mae canolfan ymchwil Gogledd Cymru wedi cael effaith sylweddol ar ddiwydiant, gan weithio â thros 100 o fusnesau i helpu i wneud pethau’n gyflymach, yn rhatach ac yn wyrddach. Mae hefyd wedi darparu dros 20 o raglenni sy’n dysgu cwmnïau sut i fesur eu defnydd o ynni yn ddigidol.
Mae AMRC Cymru wedi’i leoli mewn canolfan ymchwil gymhwysol fodern gwerth £20 miliwn ym Mrychdyn. Mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, ac yn cael ei reoli gan Brifysgol Sheffield, ac mae’n rhan o hyb arloesi strategol ar gyfer diwydiannau’r DU, High Value Manufacturing (HVM) Catapult, a sefydlwyd ac a gefnogir gan Innovate UK.
Dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio yn Llywodraeth Cymru, fod y buddsoddiad wedi’i wneud oherwydd bod Llywodraeth Cymru ‘yn gwybod cymaint o wahaniaeth y gallai ei wneud i ogledd Cymru, gweithgynhyrchu ac economi ehangach Cymru’.
Ychwanegodd: “Mae’r cyfleustra wedi sefydlu ei hun yn fuan fel ased arwyddocaol yn ein hecosystem ymchwil a datblygu, gan helpu dros 100 o fusnesau Cymreig i arloesi, datblygu cynnyrch newydd a pharatoi ar gyfer y dyfodol.
“Rwy’n edrych ymlaen at weld y ganolfan yn parhau i chwarae rhan hollbwysig yn nyfodol gweithgynhyrchu uwch yng Nghymru wrth i ni weithio gyda phartneriaid er mwyn hybu cynhyrchiant, denu buddsoddiad pellach a chreu swyddi cynaliadwy o safon uchel.”
Mae’r garreg filltir hon, flwyddyn ers sefydlu’r ganolfan, yn digwydd yr un pryd ag y cyfeiriodd y Prif Weinidog, Syr Keir Starmer, at AMRC Cymru fel ‘sefydliad ymchwil byd-enwog’. Gwnaeth hyn yn ystod ei gyhoeddiad yn cadarnhau parth buddsoddi gwerth £160 miliwn, a fydd yn mynd yn fyw yng ngogledd-ddwyrain Cymru y flwyddyn nesaf, wedi’i seilio o gwmpas y clwstwr gweithgynhyrchu uwch.
Roedd cyfarwyddwr ymchwil AMRC Cymru, Andy Silcox, yn aelod o fwrdd cysgodol y parth buddsoddi, a chwaraeodd ran flaenllaw yn ymdrech lwyddiannus siroedd Wrecsam a’r Fflint i ddod yn barth buddsoddi. Dywedodd fod hyn yn un o nifer o uchafbwyntiau yn ystod y pum mlynedd diwethaf tra bu’n arwain AMRC Cymru, y blynyddoedd sydd wedi rhoi’r boddhad mwyaf iddo yn ystod ei yrfa.
Ychwanegodd Andy: “Rydym wedi llwyddo i ymgysylltu ag ystod amrywiol o fusnesau Cymreig mewn nifer o sectorau gweithgynhyrchu, ac rwy’n falch ein bod wedi gallu gwneud cyfraniad cadarnhaol i bawb rydym wedi gweithio gyda nhw.
“Mae hefyd wedi bod yn braf gweld twf a datblygiad ein tîm hynod dalentog o beirianwyr ifanc. A rhaid i ni ddiolch yn fawr iawn i Lywodraeth Cymru, sydd wedi ymddiried ynom i sicrhau effaith yn sector gweithgynhyrchu Cymru.”
Mae’r sector bwyd a diod yn cyfrannu’n sylweddol at economi Cymru, ond gan fod yr elw’n gymharol fach, mae llai o fuddsoddi mewn ymchwil a datblygu. Un o’r 100 o fusnesau y mae tîm hynod dalentog AMRC Cymru wedi bod yn ymwneud ag ef er 2019 yw The Pudding Compartment, cwmni sydd â’i bencadlys yn y Fflint, ac sydd wedi ennill nifer o wobrau am gynhyrchu pwdinau o safon uchel. Fe wnaeth AMRC Cymru helpu i greu llinell gynhyrchu fodern newydd i’r busnes, gan gyflwyno awtomatiaeth uwch a data digidol sy’n chwyldroi’r busnes – gan arwain at allbwn mwy nag erioed a denu cwsmeriaid newydd.
Hyd yn hyn mae dros 50 o fusnesau bach a chanolig eu maint (BBaCh) hefyd wedi cael eu cefnogi ar eu taith weithgynhyrchu ddigidol a chynaliadwy drwy raglenni cymorth AMRC Cymru, sy’n cael eu hariannu’n gyfan gwbl drwy ddyraniadau o Gronfa Ffyniant Gyffredin llywodraeth y DU i gynghorau lleol. Mae’r rhaglenni hyn wedi darparu mynediad digyffelyb i weithgynhyrchwyr lleol at dechnoleg gweithgynhyrchu uwch, trosglwyddo gwybodaeth, hyfforddiant ac uwchsgilio mewn strategaethau digidol a datgarboneiddio.
Ac nid busnesau bach a chanolig lleol yw’r unig rai sy’n elwa o weithio gyda’r arbenigwyr yn AMRC Cymru. Chwaraeodd Airbus ran sylfaenol yn y gwaith o greu AMRC Cymru, gan sefydlu ei hun fel tenant yn adeilad AMRC Cymru er mwyn datblygu ei genhedlaeth nesaf o dechnolegau adenydd dan ei raglen ‘Adain Yfory’, sy’n rhan o fuddsoddiad byd-eang mewn ymchwil ac arloesi gan Airbus.
Ers hynny, mae AMRC Cymru wedi gweithio mewn cysylltiad agos ag Airbus er mwyn dod i ddeall ei anghenion yn well, â’r nod o ddarparu gwerth eithriadol ar raglen hynod o bwysig i awyrofod yn y DU – datblygu’r genhedlaeth nesaf o awyrennau un eil.
Yn ogystal â’r sector awyrofod, mae tîm AMRC Cymru wedi gwneud cynnydd yn y sector amaethyddol, sy’n rhan allweddol o gadwyn gyflenwi nifer o wahanol ddiwydiannau, ond sydd dan bwysau cynyddol i gynhyrchu bwyd o safon uchel, am gost isel i’r boblogaeth, tra’n lleihau effeithiau amgylcheddol.
Ymhlith nifer o heriau, dwy agwedd allweddol sy’n ychwanegu at y pwysau sydd ar y sector yw prinder llafur a chysondeb gweithrediadau. Mewn ymateb i hyn, mae AMRC Cymru yn arwain prosiect AgBot – y tractor cwbl awtonomaidd cyntaf sydd ar gael yn fasnachol yn y DU.
Drwy AgBot a’i dreialon yng Ngholeg Glynllifon, mae AMRC Cymru yn ceisio dadrisgio technoleg fel bod ffermwyr yn gallu gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar ffeithiau yn y cyfnod anodd yma.
Mae llwyddiannau o’r fath yn parhau i adeiladu hyder yn y ffordd y gall arloesi drawsnewid diwydiannau Cymru, fel y gwelwyd pan agorwyd safle newydd HVM Catapult yn Ne Cymru yn ddiweddar, HVM Catapult Baglan. Yma, bydd peirianwyr AMRC Cymru yn rhedeg hyb ffatri ddigidol, gan roi mynediad i weithgynhyrchwyr at y cyfarpar diweddaraf i’w helpu i gynyddu eu cynhyrchiant a’u cynaliadwyedd, hybu arloesi â thechnoleg gweithgynhyrchu a chefnogi trawsnewidiad diwydiannol gwyrdd Cymru.
Bu Katherine Bennett, Prif Swyddog Gweithredol HVM Catapult, yn edrych yn ôl ar gyfraniad hollbwysig y ganolfan ym maes gweithgynhyrchu ychydig fisoedd ar ôl ei hagor, pan gafodd ei throi’n safle cynhyrchu peiriannau anadlu a fyddai’n achub bywydau yn ystod pandemig Covid-19.
Ar ôl dweud ‘Llongyfarchiadau’ wrth AMRC Cymru ar ei ben-blwydd yn bump oed, ychwanegodd: "Ar ôl treulio cyfnod yn Airbus rwy’n gwybod pa mor bwysig mae’r safle wedi bod i fyd diwydiant yng Nghymru. Mae wedi profi i fod yn ased cenedlaethol heb ei ail – fel cyfleuster i gynhyrchu miloedd o beiriannau anadlu i ddechrau, ac yna drwy helpu gweithgynhyrchwyr bach a mawr i fod yn fwy proffidiol, cynaliadwy a chystadleuol.
"Gan obeithio am flynyddoedd lawer o gryfhau gweithgynhyrchu yng Nghymru."
Nid yw AMRC Cymru yn bwriadu aros yn ei unfan. Yn y dyfodol, mae’n awyddus i greu gweledigaeth o’r hyn y gall Cymru fod, a dyma pam y mae’n sefydlu ei hun yn oes newydd ynni glân. Mae’r ganolfan wedi ymuno â Japan Marine United fel rhan o bartneriaeth ymchwil strategol i ddatblygu ynni o ffermydd gwynt arnofiol ar y môr yng Nghymru, a gweddill y DU, ag uchelgais o greu cyfleoedd cadwyn gyflenwi i ddiwydiannau Cymreig a fydd yn trawsnewid y dirwedd ddiwydiannol.
Dywedodd Jason Murphy, cyfarwyddwr strategaeth a masnachol AMRC Cymru, fod gan AMRC Cymru y potensial, yn y pum mlynedd nesaf, i ‘ddechrau symud y deial economaidd i Gymru’, gan greu cadwyni cyflenwi cynhenid a gwella cynaliadwyedd ar draws y diwydiant gweithgynhyrchu.
Ychwanegodd: “Er bod cyflymder newid technolegol yn gallu bod yn frawychus, yr hyn sy’n hybu llwyddiant ym myd busnes yn y bôn yw perthnasoedd a chydweithrediad rhwng pobl. Bydd cael y cydbwysedd hwn yn iawn yn hollbwysig wrth i ni weithio er mwyn hybu twf economaidd yng Nghymru drwy ddatblygu sector gweithgynhyrchu o’r radd flaenaf dros y degawd nesaf.”
Y DIWEDD