Arloesi a thechnoleg: Sbarduno twf economaidd yng Nghymru drwy weithgynhyrchu uwch
12 December 2024Gan Jason Murphy, cyfarwyddwr masnachol a strategaeth, AMRC Cymru
Bum mlynedd yn ôl, ar 28 Tachwedd 2019, lansiwyd AMRC Cymru gyda chenhadaeth feiddgar - i ddefnyddio arloesedd a thechnolegau uwch i drawsnewid cynhyrchion a phrosesau yn y sector gweithgynhyrchu, gan lywio Cymru tuag at economi gryfach a gwyrddach.
Dechreuodd ein taith o gnewyllyn bychan y flwyddyn honno. Dechreuodd gyda mi ac Andy Silcox, cyfarwyddwr masnachol AMRC Cymru, yn eistedd mewn ystafell ddosbarth fach yng Ngholeg Cambria, gan lunio ein cynllun wrth aros i’n cyfleuster newydd gael ei gwblhau.
Heddiw, rydyn ni’n sefyll yn falch mewn canolfan o'r radd flaenaf, sy'n cyflogi dros 50 o unigolion hynod dalentog. Gyda’n gilydd, rydyn ni wedi helpu dros 100 o fusnesau yng Nghymru i ddatblygu cynnyrch rhagorol, gwella effeithlonrwydd prosesau, a lleihau eu hôl troed carbon.
Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb y glasbrint a ddarparwyd gan sylfaenwyr grŵp AMRC. Fe wnaeth eu profiad o ddatblygu canolfan ymchwil gweithgynhyrchu drosiadol sy’n cael ei pharchu’n fyd-eang yn Ne Swydd Efrog ein harwain a’n hysbrydoli.
Nawr, rydyn ni’n ymgysylltu â rhai o’r cwmnïau mwyaf arloesol yng Nghymru, gan gyflwyno datblygiadau technolegol angenrheidiol a meithrin creadigrwydd gyda’r pŵer i gyflymu twf yr economi gyfan.
Gweledigaeth i Gymru
Ar y dechrau, roedd hyn yn cael ei ystyried yn risg. Pan fuddsoddwyd £20 miliwn gan Lywodraeth Cymru yn ein canolfan dechnoleg arloesol ym Mrychdyn bum mlynedd yn ôl, soniodd rhai eu bod wedi methu ag adfywio’r sector gweithgynhyrchu yng Nghymru yn y gorffennol.
Ond roedd yn amlwg fod angen newid. Yn 2000, dim ond 71 y cant o gyfartaledd y DU oedd allbwn economaidd Cymru y pen. Ugain mlynedd yn ddiweddarach, dim ond 74 y cant yr oedd wedi codi.
Roedd gweithgynhyrchu yn y DU drwyddi draw wedi dod yn anghystadleuol. Roedd ar ei hôl hi o gymharu â chystadleuwyr byd-eang ac yn llithro i lawr y tablau cynghrair rhyngwladol. Roedd gwledydd fel De Korea, Singapore, Tsieina, Japan a'r Almaen wedi buddsoddi'n helaeth mewn robotiaid gweithgynhyrchu a thechnolegau cenhedlaeth nesaf ar ôl cwymp ariannol 2007, wrth i'r DU ddisgyn ymhellach ar ei hôl hi - gan gofnodi lefel o dwf cynhyrchiant blynyddol cyfartalog ar gyfer yr economi gyfan rhwng 2010 a 2019 nas gwelwyd ers yr 1800au.
Adfer gweithgynhyrchu yng Nghymru
Efallai y bydd rhai’n meddwl bod gweithgynhyrchu yn y DU wedi gweld dyddiau gwell—bod ein heconomi bellach yn rhedeg ar wasanaethau a bod y cynnyrch rydyn ni'n dibynnu arnyn nhw’n cael eu gwneud yn bennaf yn Ne-ddwyrain Asia. Ond mae digwyddiadau seismig diweddar fel y pandemig a rhyfel Wcráin wedi ysgogi’r UE ac UDA i fuddsoddi trilliynau yn eu sectorau gweithgynhyrchu eu hunain.
Allwn ni ddim fforddio cael ein gadael ar ôl, dibynnu ar gadwyni cyflenwi tramor a pharhau i fod yn agored i ddigwyddiadau brawychus byd-eang.
Mae’r dystiolaeth yn dangos diwydiant gweithgynhyrchu yn y DU sydd wedi bod yn dirywio ers degawdau. Dyna pam mae AMRC Cymru, sydd hefyd yn rhan o'r High Value Manufacturing (HVM) Catapult, yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Sheffield, Llywodraeth Cymru, a’r cwmni awyrofod enfawr Airbus – ar fin bod yn gatalydd ar gyfer adfywio sector sy’n cyfrannu mwy at gynnyrch Gwerth Ychwanegol Gros yng Nghymru nag mewn unrhyw ranbarth arall yn y DU. Dyma bwysigrwydd i Gymru na ellir ei gorbwysleisio.
Ein nod yw adeiladu rhywbeth sy’n cael effaith sylweddol a phendant: gwella cynhyrchiant yn y sector gweithgynhyrchu, dod â chadwyni cyflenwi yn ôl i Gymru, lleihau’r defnydd o ynni, a sbarduno twf yn economi Cymru.
Gwneud gwahaniaeth ledled Cymru
Mae angen amser ar gyfer uchelgeisiau mawreddog o’r fath, ond yn ystod ein pum mlynedd gyntaf, rydyn ni eisoes wedi ennill momentwm pwysig drwy ein hymyriadau yn y diwydiant ledled Cymru.
Yn Sir y Fflint a Phowys, a ariennir yn llawn drwy ddyraniad Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU eu cynghorau, rydyn ni wedi bod yn cyflwyno dwy raglen ragorol — a ddatblygwyd gan Mike Booker, pennaeth arloesi; Bobby Manesh, pennaeth ymchwil a Lee Wheeler, arweinydd thema ar symudedd yn y dyfodol - ar gyfer cynghorau lleol. Rydyn ni wedi helpu busnesau i ddatgarboneiddio, cynyddu cynhyrchiant, ac uwchsgilio eu gweithwyr.
Yn Sir Ddinbych, buom yn gweithio gyda Chyngor Sir Ddinbych, ac rydyn ni wedi helpu busnesau i drawsnewid eu gweithrediadau gyda thechnoleg glyfar drwy’r rhaglen beilot Adfywio Cymunedol.
Ledled Cymru, dan arweiniad arbenigedd a rhagoriaeth Paul Shepherd, y prif beiriannydd awtomeiddio, rydyn ni wedi cynnal dros 20 o raglenni sy’n addysgu cwmnïau sut i fesur eu defnydd o ynni yn ddigidol. Drwy ddod â’r data hwn yn fyw a chyflwyno gwybodaeth werthfawr drwy ddysgu peirianyddol, rydyn ni wedi helpu i leihau eu defnydd o ynni hyd at bum y cant—sydd wedi bod o fudd i'w mantolenni a’r blaned.
Yn y cyfamser, mae dros 100 o fusnesau bach yng Nghymru wedi elwa o’n harbenigedd ar brosiectau penodol i ddatrys eu problemau. Mae nifer o gwmnïau wedi ymgysylltu â ni ar draws nifer o brosiectau, er enghraifft Polytag, a gafodd gymorth gennym i ddechrau i ddatblygu arddangoswr ar gyfer eu technoleg - a oedd yn olygu ein bod yn gweithio gyda nhw yn y tymor hir.
Drwy’r rhaglen bum diwrnod o gymorth catapwlt, mae AMRC Cymru wedi cefnogi amrywiaeth eang o gwmnïau o sectorau mor amrywiol â bwyd a diod, lle maen nhw wedi dangos y defnydd o roboteg ar gyfer pecynnu, i ynni ar y môr, lle rydyn ni'n lleihau’r risg o ddefnyddio offer deallusrwydd artiffisial ar gyfer monitro o dan y dŵr. Mae dau o’r cwmnïau hyn wedi derbyn Gwobr y Brenin, un ar gyfer Arloesedd, sef Ruth Lee ac un ar gyfer Menter, sef LimbArt.
Fe wnaethon ni hefyd helpu gwneuthurwr wafflau yng ngorllewin Cymru i ddefnyddio robotiaid i bacio eu cynnyrch yn gyflymach. Buom yn gweithio gyda dyfeisiwr sydd wedi dylunio injans di-garbon ar gyfer cychod, gan helpu i wireddu ei syniad. Ac fe wnaethon ni helpu i gyflymu’r gwaith o gynhyrchu gorchuddion coesau prosthetig, gan arbed £100,000 i ddylunydd yng Nghonwy mewn costau cyfalaf.
Parod at y dyfodol
Mae gan ein holl brosiectau bwrpas cyffredin, sef gwneud diwydiant Cymru yn barod at y dyfodol. Rydyn ni’n canolbwyntio ar ddatblygu cynnyrch newydd, awtomeiddio a deallusrwydd gweithgynhyrchu. Sut mae hyn yn edrych ar lawr gwlad?
Cysylltodd Granada Cranes Ltd, gweithgynhyrchwyr camlathau a osodir ar dyrbinau gwynt sefydlog ac arnofiol ar gyfer trosi ynni ar y tir ac ar y môr, â ni i helpu i ddatblygu cynnyrch newydd. Creodd ein prif beiriannydd, Dr James Allum, gysyniad newydd esthetig syfrdanol a ysbrydolwyd gan natur a phensaernïaeth.
Am sawl mis, ac ar y cyd â pheirianwyr Granada, aethon ni i’r afael â’r her o greu dyluniad a oedd yn cydymffurfio â chod ac yn gost-effeithiol i’w gynhyrchu heb leihau gweledigaeth wych James. Y canlyniad oedd campwaith peirianneg sy’n 20 y cant yn fwy effeithlon i’w weithgynhyrchu ac sydd eisoes wedi sicrhau archebion sy’n werth dros £20 miliwn. Rydyn ni nawr yn edrych ar awtomeiddio’r llinellau cynhyrchu a chydosod er mwyn sicrhau hyd yn oed mwy o arbedion.
Mae Rob Weatherhead, ein prif beiriannydd awyrofod, yn gweithio gydag Airbus i ddeall eu hangen yn well o safbwynt ein sefydliad a’n sgiliau technegol. Y nod yw sicrhau ein bod yn cynnig gwerth eithriadol i Airbus ar raglen o bwysigrwydd aruthrol i awyrofod y DU dros y deng mlynedd nesaf — datblygiad y genhedlaeth nesaf o awyrennau eil sengl. Mae'r fenter hon yn hanfodol ar gyfer cynnal arweinyddiaeth y DU mewn arloesedd awyrofod.
Mae Rob hefyd wedi sicrhau rhaglen sylweddol wedi’i hariannu gan ATI gyda Safran Seats, a fydd yn manteisio ar y sgiliau amrywiol ar draws llawer o ganolfannau o dan Grŵp AMRC. Mae’n gyflawniad rhagorol sydd nid yn unig yn tynnu sylw at ein gallu i arwain prosiectau ar raddfa fawr ond hefyd yn atgyfnerthu cryfder cydweithio o fewn ein rhwydwaith mewnol.
Mae cwmnïau bwyd a diod yn cyfrannu’n sylweddol at economi Cymru, ond mae maint elw tynn yn golygu eu bod yn buddsoddi llai mewn ymchwil a datblygu na sectorau eraill. Dan arweiniad ein pennaeth bwyd a diod bywiog yn y sector hwn, sef Andrew Martin, rydyn ni wedi datblygu llinell gynhyrchu newydd o’r radd flaenaf ar gyfer The Pudding Compartment, cwmni sy’n cynhyrchu nwyddau wedi’u pobi ar gyfer ysgolion, canolfannau garddio a chwmnïau trenau.
Mae cyflwyno data digidol ac awtomeiddio uwch yn chwyldroi eu busnes – maen nhw wedi cofnodi allbynnau mwy nag erioed o’r blaen ac yn denu cwsmeriaid newydd cyffrous. Roedd y prosiect, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, yn cynnwys cydweithio â phartneriaid fel CAD-IT, EBS Automation, Siemens, Small World Consulting a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant - pob un yn gwneud cyfraniadau pwysig. Er bod y prosiect hwn yn parhau, mae'n dyst i sut y gall arloesedd ddigwydd yn fwyaf effeithiol drwy bartneriaethau a chydweithio.
Mae cadwyni cyflenwi yn eithriadol o bwysig. Rydyn ni'n ymgysylltu â chwmnïau ffiniau cenedlaethol yng Nghymru er mwyn deall yn well eu dibyniaeth ar rannau wedi’u mewnforio a’r heriau y maen nhw’n eu hwynebu wrth brynu’n lleol. Gan ddod â’r cadwyni cyflenwi hyn yn ôl i Gymru, gallem ychwanegu £100m y flwyddyn at economi Cymru a helpu i fynd i’r afael â’r diffyg masnach net presennol.
Er enghraifft, mae Andy Silcox a Bobby Manesh wedi bod yn edrych ar sut gallwn ni ddefnyddio dur wedi’i ailgylchu yn y ffwrneisi arc trydan newydd yn Tata i gynhyrchu dur strwythurol o ansawdd uchel gyda phibelliant da ar dymheredd isel. Gellir defnyddio’r dur hwn ar gyfer strwythurau mawr wedi’u saernïo yn Ne-orllewin Cymru, wedi’u hadeiladu gan ddefnyddio technegau weldio awtomataidd.
Gallai hyn arwain at seilwaith fel tyrau tyrbinau gwynt yn cael eu gwneud yn gyfan gwbl gyda deunyddiau o Gymru, gyda phobl o Gymru, a chreadigrwydd o Gymru — newid hynod gyffrous gyda manteision enfawr posibl i’r economi ranbarthol a chynaliadwyedd.
Mae Richard James, ein prif beiriannydd sicrwydd, wrthi’n datblygu system metroleg a allai fod yn arloesol ar y cyd â’r Labordy Ffiseg Cenedlaethol, Airbus a BAE Systems, sef grŵp sy’n asesu’r prosiect ar hyn o bryd ar gyfer potensial ‘arloesol’.
Mae cynaliadwyedd ar flaen y gad o ran meddwl yn fodern. Mae Cymru’n drydydd yn nhabl cynghrair ailgylchu’r byd – cyflawniad anhygoel i wlad mor fach. Er mwyn adeiladu ar hynny, arweiniodd Bobby Manesh ddau alwad cyllid cystadleuol ar wahân ar gyfer ymchwil a datblygu yn y DU ynghylch heriau ‘pecynnau plastig cynaliadwy clyfar’.
Lluniodd gonsortiwm cyffrous i edrych ar yr heriau o nodi, didoli a gwahanu gwahanol fathau o ddeunydd pacio plastig mewn Cyfleusterau Adennill Deunyddiau. Gyda chefnogaeth y peirianwyr Samuel Latham, Alex Lewis a Laura Azaïs, dyfeisiodd Bobby gynllun i ddatblygu systemau diwydiant 4.0 a allai adnabod dynodwyr unigryw (a grëwyd gan ddau o bartneriaid y prosiect yn cynnwys marcwyr inc a thechnolegau Adnabod Amledd Radio tenau, sef RFID), fel y gellid dychwelyd y deunydd pacio yn y pen draw i’r cynhyrchwyr gwreiddiol ar gyfer glanhau ac ailgylchu.
Balchder ac addewid
Un o’r agweddau mwyaf nodedig ar ein taith fu’r nifer cynyddol o fenywod dawnus sy’n ymuno â’n timau peirianneg.
Mae Laura Azaïs a Vandana Koyampurath yn beirianwyr data a meddalwedd rhagorol; mae Rhian Griffith, Chloe Stouter, a Lucy Morley wedi ychwanegu gwerth aruthrol at ein cymhwysedd dylunio, gan ddod â syniadau a safbwyntiau newydd; ac mae Sharan Kaur yn beiriannydd hynod dalentog ym maes technolegau sy’n canolbwyntio ar bobl, gan wthio ffiniau rhyngweithio dynol a robotiaid.
Rydyn ni’n cael ein cefnogi’n dda gan fenywod ym maes rheoli prosiectau. Mae Natalie Young, Rachael Kopanski a Beth Hinchcliffe yn cyfuno agwedd gadarnhaol, gwaith caled, disgyblaeth a meddwl yn greadigol — gan roi gwerth aruthrol i’n rhanddeiliaid allanol. Yn ogystal â hynny, mae Michelle Hibbert, Sian Price, Jodie Griffith a Zara-lea Field yn rhoi’r lefelau uchaf o gymorth busnes y tu ôl i’r llenni.
Rydyn ni’n hynod falch o’r hyn rydyn ni wedi’i adeiladu dros y pum mlynedd diwethaf. Ar bob lefel ac ar draws pob disgyblaeth, mae ein tîm yn llawn pobl hynod dalentog ac angerddol sydd wedi ymrwymo i ddarparu ar gyfer Cymru. Rydyn ni wedi creu sylfaen wych y gallwn adeiladu rhywbeth gwirioneddol arwyddocaol arni.
Ynghyd â Llywodraeth Cymru, rydyn ni’n creu gweledigaeth o’r hyn y gall Cymru fod, gan ehangu ymhellach ar ein twf diweddar yn Ne Cymru.
Yn ystod y pum mlynedd nesaf, mae gennym y potensial i ddechrau symud y deial economaidd i Gymru ar yr un pryd â chreu cadwyni cyflenwi cynhenid a lleihau’r defnydd o ynni a gwastraff ar draws y diwydiant gweithgynhyrchu.
Ar ein pumed pen-blwydd, edrychwn yn ôl gyda balchder — ac edrychwn ymlaen gydag addewid a hyder.